Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

Ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2019 bydd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn lansio diwrnod cenedlaethol newydd yn y calendr Cymreig, sef Diwrnod Hawliau’r Gymraeg. Diwrnod yw hwn i ddathlu gwasanaethau Cymraeg a’r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r iaith.
 
Bydd gwahanol sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled y wlad yn cymryd rhan yn yr ymgyrch yn hyrwyddo’u gwasanaethau Cymraeg.
 
Hon yw’r flwyddyn gyntaf i’r diwrnod gael ei gynnal; a chaiff ei lansio yn Ysgol Gynradd Brynaman i gyd-fynd ag adnodd newydd mae’r Comisiynydd wedi greu i ysgolion cynradd i ddysgu plant am eu hawliau i ddefnyddio’r iaith.
 
Mae’r adnodd addysgol yn cynnwys fideo a chynllun gwers; a dau o gyn-ddisgyblion Ysgol Brynaman, Cai Efan Thomas  a Briallen Rees-Owen, yw sêr y fideo. Mae’r fideo’n dilyn y ddau o amgylch eu hardal wrth iddynt dynnu sylw at y gwahanol gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac at y bathodyn Iaith Gwaith. Nod yr adnodd yw bod disgyblion ar draws Cymru’n adnabod y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu hardal nhw.
 
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Ers tair blynedd mae sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru’n gweithredu safonau’r Gymraeg, ac mae’r rhain yn creu hawliau i bobl dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth ddelio â nhw. Ond, wrth holi pobl am y cyfleoedd hyn, er fod pobl yn ymwybodol fod ganddynt hawliau, doedden nhw’n aml ddim yn gwybod beth yn union oedd yr hawliau hyn na gyda phwy y gallent eu defnyddio. Nod y diwrnod yma, felly, ydy codi ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg a cheisio cynyddu defnydd ohonynt.
 
“Mae’n bwysig hefyd, o ystyried targed y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, fod plant Cymru yn ymwybodol o’u hawliau fel siaradwyr Cymraeg. Bydd y pecyn addysgol yn dysgu plant o oedran ifanc am eu hawliau i ddefnyddio’r iaith, er mwyn i’r Gymraeg ddod yn gyfrwng iaith cwbl naturiol wrth iddynt fynd yn hŷn.
 
“Lle bynnag yng Nghymru mae rhywun yn byw, mae yna hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg, a dyna neges y Diwrnod Hawliau.”
 
Mae 122 o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru’n gweithredu safonau’r Gymraeg. Bydd sefydliadau’n cymryd rhan yn y diwrnod drwy rannu negeseuon am yr hawliau ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg; gan ddefnyddio brand cyffredin yr ymgyrch.
 
Dewiswyd y 6ed o Ragfyr i gyd-fynd â’r dyddiad pan basiwyd Mesur y Gymraeg gan y Cynulliad yn 2010. Mesur y Gymraeg greodd yr egwyddor o hawliau ieithyddol yng Nghymru.
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau