Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Delio â chwynion ac ymchwilio yn y ffordd mwyaf buddiol i siaradwyr Cymraeg

Beth yw’r budd gorau i’r cyhoedd yw blaenoriaeth Comisiynydd y Gymraeg wrth ddelio â chwynion am ddiffyg defnydd neu ddefnydd anfoddhaol o’r Gymraeg.
 
Datrys diffygion a gwella’r gwasanaeth Cymraeg yw’r flaenoriaeth, ac mae’r Comisiynydd yn ystyried hyn wrth benderfynu a fydd yn cynnal ymchwiliad ffurfiol i gŵyn. 
 
Rhwng Ebrill a Gorffennaf 2019, derbyniodd y Comisiynydd 43 o gwynion gan y cyhoedd lle roedd amheuaeth bod sefydliad yn torri un neu ragor o’u dyletswyddau i ddefnyddio’r Gymraeg. Agorodd ymchwiliad statudol i 21 (48%) ohonynt. Roedd y 22 cwyn arall yn gwynion lle roedd y sefydliadau dan sylw wedi cadarnhau eu bod wedi cymryd camau i ddatrys y mater neu wedi ymrwymo i wneud, ac wedi rhoi sicrwydd digonol bod y mater yn annhebygol o ddigwydd eto.
 
Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:
 
“Mae pob un ymchwiliad statudol yn cymryd tua 6 mis i’w gwblhau. Wrth gwrs, mae yna achosion yn codi sy’n golygu mai dyma’r llwybr mwyaf priodol i ddelio ag achosion, a defnyddio mhwerau i orfodi sefydliadau i wella’u trefniadau. Rydw i wedi dilyn y llwybr yma gyda bron i hanner yr achosion y mae’n bosib i mi ymchwilio iddyn nhw.
 
“Yn hanesyddol, roedd ymchwiliadau llawn yn cael eu hagor i’r mwyafrif helaeth o gwynion lle roedd yna amheuaeth o fethiant. Roedd ymchwiliad llawn yn digwydd hyd yn oed pan oedd sefydliad eisoes yn cymryd camau i gywiro’r mater ac i roi trefniadau mewn lle i sicrhau nad oedd yn digwydd eto.”
 
Un enghraifft o ymchwiliad statudol a gynhaliwyd er bod y sefydliad wedi cymryd camau i ddatrys y broblem oedd cwyn a dderbyniwyd am negeseuon e-bost uniaith Saesneg gan Gyngor Sir oedd wedi eu cynhyrchu’n awtomatig. Fe wnaeth y Cyngor gydnabod y methiant yn syth a chymryd camau i’w gywiro. Cynhaliwyd ymchwiliad llawn a dyfarnu fod methiant wedi bod, ond ni osodwyd unrhyw gamau gorfodi ar y Cyngor gan fod y mater wedi ei ddatrys. Cymrodd yr ymchwiliad yma 7 mis i’w gwblhau.
 
Ychwanegodd Aled Roberts:
 
“Pe bawn i’n agor ymchwiliad llawn, ffurfiol, i bob achos, a threulio 6 mis yn gweithio ar ddatrysiadau i faterion sydd eisoes wedi cael eu datrys ers peth amser; yna dydw i ddim yn credu y buaswn i’n defnyddio adnoddau cyfyngedig fy swyddfa yn y ffordd mwyaf effeithlon posib. Dydw i ddim chwaith yn meddwl mai dyna fyddai’r gwasanaeth gorau y gallwn ei gynnig i siaradwyr Cymraeg ac i wella sefyllfa’r iaith.
 
“Pan mai ymchwiliad statudol, llawn, yw’r ffordd o ddatrys methiant, yna rydw i’n gwneud hynny ac yn gosod camau i orfodi sefydliadau i ddatrys y sefyllfa ac i sicrhau na fydd y methiant yn cael ei ailadrodd. Rydw i wedi cryfhau’r ffordd ydyn ni’n monitro’r sut mae sefydliadau’n ymateb i ymchwiliadau a chamau gorfodi, fel na fyddwn ni mewn sefyllfa eto lle rydyn ni’n ymchwilio i’r un mater dro ar ôl tro.”
 
Cychwynnodd y camau o gyflwyno newidiadau i’r drefn ymchwilio i gwynion yn 2018 pan wnaeth y Comisiynydd gomisiynu archwiliad mewnol i’r trefniadau. Arweiniodd hynny at wneud addasiadau i’r drefn er mwyn galluogi’r Comisiynydd i ystyried sylwadau gan sefydliadau cyn dod i benderfyniad i agor ymchwiliad ai peidio. Er bod hynny’n addasiad i’r drefn oedd yn bodoli’n flaenorol, mae’n gyson â pholisi gorfodi’r Comisiynydd ac wedi arwain at lai o ymchwiliadau statudol yn cael eu hagor ac achwynwyr yn derbyn ymatebion yn gynt.
 
Mae’r Comisiynydd yn talu sylw i argymhelliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yn ei ymdriniaeth â chwynion, sef bod rhaid “ymchwilio i opsiynau, lle y ceir hyblygrwydd o fewn y fframwaith deddfwriaethol, i gyflymu’r broses gwynion. Dylai hyn sicrhau y gwneir y defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus, a sicrhau bod cwyn defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei datrys yn gyflym lle bynnag y bo modd.”

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau