Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Datblygu defnydd o’r Gymraeg gam wrth gam

Mae Gethin Edwards yn arwain Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, sy’n annog ac yn cefnogi busnesau a sefydliadau trydydd sector i ddefnyddio’r Gymraeg. Yma mae’n siarad am sut mae’r tîm yn helpu sefydliadau i gyflwyno’r Gymraeg i’w gweithgareddau.
                   
‘Fe hoffem ni ddefnyddio mwy o'r Gymraeg, ond dydyn ni ddim yn siŵr sut na ble i ddechrau.'
 
Wrth siarad â busnesau, elusennau a sefydliadau trydydd sector, roedden ni’n aml yn clywed y neges hon; bod yna awydd i ddefnyddio'r Gymraeg, ond yn aml nad oeddent yn siŵr sut i gynllunio ar gyfer hynny.
 
I wneud y daith yn haws, rydyn ni wedi cyflwyno Cynllun Hybu’r Gymraeg. Mae’n galluogi sefydliadau i gynllunio eu defnydd o’r iaith mewn ffordd sy'n unigryw i'w hanghenion nhw, ac yn rhoi pwyslais ar gynyddu defnydd o’r iaith dros amser.
 
Mae pedwar cam i’r cynllun, sef:
 
  1. Holiadur i asesu defnydd presennol o’r Gymraeg
  2. Yn seiliedig ar atebion i’r holiadur, bydd y system yn creu cynllun hybu gyda syniad o’r lefel o ddarpariaeth bresennol (o 1 i 3) ym mhob maes
  3. Gall sefydliadau osod targedau yn eu cynllun hybu ar gyfer cyrraedd y lefel nesaf, a gwella’u darpariaeth
  4. Cyflwyno’r cynllun gweithredu i swyddogion y Comisiynydd.
 
Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cwblhau Cynllun Hybu yn ddiweddar. Yma, mae Amy Lloyd, eu Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, yn siarad am y profiad o baratoi a gweithredu’r cynllun.
 
Sut brofiad oedd cwblhau’r holiadur? Oedd yr holiadur yn ffordd ddefnyddiol o fesur eich cryfderau a'ch gwendidau?
 
Roedd yr holiadur ar-lein yn hawdd i'w ddefnyddio ac yn ein galluogi i edrych yn onest ar bob agwedd ar ein gwaith – o’r ffordd rydym yn cyfathrebu â'n gwirfoddolwyr i’r hyfforddiant rydym yn ei ddarparu.
Beth wnaeth eich sbarduno chi i ddatblygu cynllun hybu newydd?
 
Mae’r ffordd ydyn ni’n cyfathrebu – yn fewnol ac yn allanol – yn wahanol iawn nawr. Mae gennym ni wefan, platfformau cyfryngau cymdeithasol a brand cwbl newydd – heb sôn am wasanaethau a rhaglenni newydd.
Mae’n bwysig bod gennym gynllun yn ei le sy’n adlewyrchu’r ffordd rydym yn gweithio ac yn gosod targedau clir ar gyfer gwella’n darpariaeth.
 
Mae gennych chi gynlluniau mawr i ymgynghori â staff ar draws eich sefydliad, allwch chi ddisgrifio sut rydych chi wedi mynd ati i wneud hyn?
 
Fe wnaethon ni sefydlu grŵp iaith Gymraeg ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mae'r grŵp yn cwrdd bob chwarter ac mae'n cynnwys siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a phobl ddi-gymraeg sy’n gweithio mewn gwahanol adrannau o’r elusen. Tasg y grŵp yw edrych ar ffyrdd i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg, yn ogystal â dathlu ein diwylliant a'n treftadaeth. Mae hi wedi bod yn hynod o bwysig i ni i sicrhau bod amrywiaeth o’n staff yn rhan o’r grŵp. Mae hyn nid yn unig yn rhoi darlun llawn i ni o sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio, ond gall aelodau helpu i godi proffil y Gymraeg o fewn eu timoedd eu hunain. Gyda chymorth Tîm Hybu’r Comisiynydd, rydym wedi darparu hyfforddiant i’r holl staff - gan helpu i gynyddu dealltwriaeth pawb o bwysigrwydd y Gymraeg i godi arian ac i ymgysylltu â gwirfoddolwyr.
 
Ond nid dim ond y staff sy’n rhan o hyn. Mae Cadeirydd Cadwch Cymru’n Daclus, Ed Evans, hefyd yn gweithredu fel Pencampwr y Gymraeg ar ein Bwrdd, ac yn helpu i ddiweddaru’n holl ymddiriedolwyr am y cynnydd.
 
Pa gynlluniau sydd gennych chi i fesur effaith y cynllun hybu?
 
Byddwn yn cadw golwg ar ein cynnydd drwy’r Grŵp Iaith Gymraeg – fe fydd yn eitem sefydlog ar agenda pob cyfarfod. Rydyn ni hefyd yn bwriadu ailgyflwyno holiadur i’n staff yn y dyfodol i weld a ydyn ni wedi symud ymlaen i’r lefel nesaf o ran darpariaeth Gymraeg.
 
 
Os ydych chi, fel Cadwch Cymru’n Daclus, eisiau paratoi cynllun hybu, cliciwch yma i ddysgu mwy.

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau