Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Comisiynydd yn galw am fwy o siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd meddwl

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel iawn – gyda’r ganran cyn ised â 1.9% mewn rhai byrddau iechyd. 

Yn ystod trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod hyn yn ‘annerbyniol, eilradd a pheryglus’ a rhannwyd profiadau personol dioddefwyr oedd wedi gorfod trafod eu pryderon a’u meddyliau tywyllaf yn eu hail iaith.
 
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Gan nad yw iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei weld, mae’n rhaid siarad i gyfleu a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a mwyaf personol – ac mae gwneud hynny mewn ail iaith yn boen a straen ychwanegol nad yw claf bregus ei angen.”
 
Sbardun y drafodaeth yn yr Eisteddfod oedd gwefan Meddwl.org, gafodd ei lansio yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg cymorth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl.

Mae’r wefan yn dod â’r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg i un lle ac yn cynnwys adran ‘Myfyrdodau’, sydd yn cynnig cyfle i bobl rannu eu profiadau o salwch meddwl yn y Gymraeg.
 
Un o’r rhai sy’n bwriadu cyfrannu i’r wefan ac a oedd yn rhan o’r drafodaeth yn yr Eisteddfod oedd Alaw Griffiths. Dywedodd, “Mi wnes i ddioddef o iselder ar ôl geni a chael cynnig therapi siarad trwy gyfrwng y Saesneg.  Ar y pwynt yna, doedd gen i ddim mo’r egni i ofyn am wasanaeth yn y Gymraeg.
 
“A dwi’n meddwl fod hynny yn wir am y mwyafrif o gleifion iechyd meddwl –  y cyfan mae nhw eisiau ei wneud ydy gwella, beth bynnag fo iaith y driniaeth. Pe byddwn i wedi bod gyda’r egni i fynnu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gallai aros yn hir am driniaeth oherwydd diffyg darparwyr fod wedi bod yn beryg bywyd.
 
“Dyw dioddefwyr ddim mewn stad feddyliol i ymgyrchu a dyna pam fod cefnogaeth pobl megis Comisiynydd y Gymraeg mor werthfawr.”
 
Bydd Comisiynydd y Gymraeg nawr yn pwyso ar y Cynulliad i gyflwyno’r rheoliadau ym maes iechyd er mwyn gallu gosod safonau iaith Gymraeg o fewn y sector iechyd, fydd yn arwain at gynllunio gwell ar gyfer gweithlu ddwyieithog a sicrhau fod gwasanaeth teg yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Cafodd y drafodaeth ei chloi gan Meri Huws.  Dywedodd “Mae gen i rôl i ddylanwadu ar bobl sy’n llunio polisïau a gwasanaethau iechyd yng Nghymru a’r tair neges y byddaf am iddyn nhw glywed yw fod disgwyl i glaf bwyso am wasanaeth Cymraeg yn annerbyniol ; fod gwasanaeth mewn ail iaith yn wasanaeth eilradd a bod disgwyl i glaf aros yn hirach am wasanaeth Cymraeg yn gallu bod yn beryglus.”
 
Nodiadau i’r Golygydd
 
Ffynhonnell gwybodaeth: Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Rhagfyr 2016 yn holi am ganran y staff yn maes iechyd meddwl oedd yn siarad Cymraeg
 
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwalader  30%
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda   17%
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro   5%
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys    4%
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf    3%
Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg 2%
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan   1.9%
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau