Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Codi’r llen ar brofiad carcharorion sy’n siarad Cymraeg

Mae carcharorion yn aml yn osgoi defnyddio’r Gymraeg neu ofyn am wasanaeth Cymraeg yn y carchar rhag ofn gwneud eu bywyd yn anodd yn y carchar. Dyna un o ganfyddiadau adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw.
 
Sail yr adroddiad ‘Cymraeg yn y carchar’ yw cyfres o gyfweliadau gyda charcharorion, arolygon o ddogfennaeth a deddfwriaeth, a thystiolaeth gan sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth carchardai.
 
Dywedodd un o’r carcharorion a holwyd: “Mae defnyddio’r Gymraeg yn gwneud chi’n wahanol. Dwi’n meddwl taw dyma’r rheswm pam nad yw pawb sy’n gallu siarad Cymraeg yn dewis defnyddio’r iaith.”
 
Dywedodd carcharor arall: “Dwi [...] ddim yn gweld fy mywyd yn hawdd os oeddwn yn mynnu defnyddio’r Gymraeg; dwi ddim am gorddi’r swyddogion a’r awdurdodau.”
 
Mae achlysuron wedi bod lle mae rhai staff carchardai wedi ymyrryd â rhyddid carcharorion i siarad Cymraeg â’i gilydd ac â’u teuluoedd. Dywedodd un carcharor am dro pan oedd ei dad yn ymweld, ac aelod o staff yn gofyn iddynt beidio â siarad Cymraeg. “Ro’n i yn teimlo’n grac oherwydd mae pobl eraill yn cael siarad eu hiaith nhw felly pam ddim y Gymraeg? Wnes i ddim cwyno; pwy fyddai’n gwrando? Does dim pwynt gwneud cwyn.”
 
Mae yna fwy o hawliau cyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg mewn carchardai a leolir yng Nghymru na Lloegr, ac mae mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngharchardai Cymru. Mae agor CEM Berwyn wedi arwain at wella’r ddarpariaeth, ond mae yna dal nifer fawr o achosion lle caiff pobl o Gymru eu carcharu mewn carchardai yn Lloegr. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos menywod, lle nad oes yna yr un carchar i fenywod yng Nghymru.
 
Mae’r gwasanaeth carchardai wedi cymryd camau cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, crëwyd cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol yn CEM Berwyn, a chryfhawyd trefniadau monitro. Mae disgwyl i’r sefyllfa wella ymhellach wrth i fwy o garcharorion gogledd Cymru gael eu lleoli yn CEM Berwyn.
 
Yn ei hadroddiad, mae Comisiynydd y Gymraeg yn gwneud cyfres o argymhellion er mwyn galluogi carcharorion i siarad eu hiaith eu hunain a mynegi eu hunain yn well ac i sicrhau bod sefydliadau pharchu hunaniaeth carcharorion Cymraeg eu hiaith. Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Nid mater o foethusrwydd yw iaith, ond mater o gyfiawnder. Mae’n ymwneud â hawl sylfaenol carcharor i gyfathrebu drwy gyfrwng ei iaith ei hun, neu’r iaith y gall fynegi ei hun rwyddaf ynddi.
 
“Mae clywed am enghreifftiau staff carchardai’n ymyrryd â rhyddid carcharorion i siarad Cymraeg â’i gilydd ac â’u teuluoedd yn fy nhristau; ac mae’n bwysig ei gwneud hi’n glir nad yw sefyllfaoedd o’r fath yn dderbyniol.
 
“Gydol y broses o baratoi’r adroddiad hwn, mae fy swyddogion wedi bod yn trafod y canfyddiadau a’r argymhellion gyda swyddogion yr HMPPS, sef y sefydliad sy’n goruchwylio’r gwasanaeth carchardai. Rwy’n hyderus y byddant yn defnyddio’r adroddiad er mwyn gweithredu’n gadarnhaol i wella profiadau siaradwyr Cymraeg.”
 
Dywedodd Amy Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol HMPPS yng Nghymru: “Dymunaf ddiolch i’r Comisiynydd am gynhyrchu adroddiad teg a chynhwysfawr.
 
“Rydym yn derbyn y canlyniadau ac eisoes wedi dechrau rhoi camau gweithredu ar waith er mwyn gwella profiadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg. Fel y mae’r adroddiad yn nodi, mae ateb anghenion iaith carcharorion yn allweddol er mwyn cefnogi adsefydlu a lleihau aildroseddu. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Comisiynydd er mwyn gwella’n prosesau i gyflawni hynny.”
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau