Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Barnwr yn dyfarnu fod Cyngor wedi methu yn ei ddyletswydd i ystyried effaith cau ysgolion ar y Gymraeg

Heddiw (30 Gorffennaf), daeth barnwr yn yr Uchel Lys i’r casgliad fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu yn ei ddyletswydd i ystyried effaith y penderfyniad i gau Ysgol Pont Sion Norton ar y Gymraeg.

Daeth i’r casgliad eu bod wedi methu ystyried yr effaith ar y cymunedau oedd yn cael eu gwasanaethu gan yr ysgol; yr effaith ar gynaliadwyedd addysg uwchradd Cymraeg yr ardal; a sut y byddai eu penderfyniad yn cyfrannu at nod strategol y Llywodraeth a’r cyngor o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a pheidio trin y Gymraeg yn llai ffarfiol na’r Saesneg.

Roedd y grŵp oedd yn herio’r cyngor (Ein Plant yn Gyntaf) yn cynnwys rhieni, pobl ifanc, llywodraethwyr a chynghorwyr ac yn gwrthwynebu y bwriad i greu dwy ysgol ardal fawr gan ddisodli dwy ysgol uwchradd a phedair ysgol gynradd.  Roedd dwy o’r ysgolion cynradd yn rai cyfrwng Cymraeg, ac un o'r rhain oedd Ysgol Pont Sion Norton.

Penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg , Aled Roberts, ymyrryd yn yr achos gan ei fod yn fater oedd â’r potensial i gael effaith sylweddol ar ddyfodol addysg Gymraeg, ac er mwyn cyfrannu gwybodaeth am ofynion Mesur y Gymraeg.
 
Mae’r Comisiynydd eisoes yn cynnal dau ymchwiliad i ystyried os ydy Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi torri safonau polisi (Safonau’r Gymraeg) wrth beidio ystyried effaith y penderfyniadau hyn ar y Gymraeg. 

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, “Roeddwn yn teimlo ei bod yn hanfodol i mi ymyrryd a chyfrannu tystiolaeth yn yr achos hwn gan ei fod yn fater pwysig i ddyfodol addysg Gymraeg.  Mae’r achos hwn yn dangos yn glir i gynghorau fod rhaid i ddisgyblion dderbyn addysg o leiaf o’r un safon a gyda’r un cyfleoedd yn yr iaith o’u dewis hwy. Nid yw hyn yn ddewis, ond yn orfodol yng Nghymru. 
 
“Mae hefyd yn nodi yn hollol glir, gydag unrhyw gynigion sydd yn mynd i effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg, mae’n rhaid cynnal asesiad trylwyr ar yr effaith. Nid dewisol yw hyn chwaith.”
Mae Comisiynydd y Gymraeg adrodd yn flynyddol ar berfformiad sefydliadau cyhoeddus yn cydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg, ac maent yn y gorffennol wedi nodi fod y wybodaeth am broses asesu effaith cau ysgolion ar yr iaith Gymraeg yn brin iawn.

Ychwanegodd Aled Roberts, “Rydym wedi nodi fwy nag unwaith yn y gorffennol mai ychydig iawn o wybodaeth sy’n cael ei ddarparu gan sefydliadau yn dangos sut maent wedi casglu gwybodaeth i asesu effaith cau ysgolion ar yr iaith Gymraeg. 

“Mae’r barnwr yn yr achos hwn hefyd yn nodi fod yr asesiad iaith a wnaed yn arwynebol iawn, ac y byddai cydymffurfio yn llawn â Safonau’r Gymraeg yn golygu y byddai’r cyngor yn llawer iawn mwy tebygol o fod wedi cydymffurfio gyda’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn ogystal.

“Rwyf yn awyddus gweld awdurdodau lleol yn cryfhau eu trefniadau ar gyfer ystyried effaith eu penderfyniadau ar y Gymraeg ac mi fydda i nawr yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol er mwyn tynnu eu sylw at y dyfarniad hwn.”
 
Nodiadau i’r Golygydd
 
• Mae copi o ddyfarniad y barnwr i’w weld yma

 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau