Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Angen, nid dewis, yw’r Gymraeg mewn gofal iechyd

Bydd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn arwain ymgyrch yr wythnos yma i godi ymwybyddiaeth o’r angen sydd yna i ddatblygu gweithlu dwyieithog yn y sector iechyd yng Nghymru.
 
Mae swyddfa’r Comisiynydd yn gosod dyletswyddau, sef ‘safonau’, ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy’n ei gwneud hi’n ofynnol iddyn nhw gynnig rhai gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Y sefydliadau diweddaraf i ddod o dan y safonau hyn oedd y sector iechyd ar 30 Mai 2019.
 
Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, “Y sector iechyd yw’r sefydliadau diweddaraf i weithredu safonau’r Gymraeg ac rydym yn disgwyl gweld gwahaniaeth dros y misoedd nesaf. Ond allwn ni ddim pwysleisio digon y gwahaniaeth mae’n ei wneud i gleifion gael siarad Cymraeg pan nad ydynt yn dda, ac mai angen, nid dewis, ydy iaith i nifer o gleifion.
 
“Un o’r safonau sydd wedi ei osod ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yw y dylent gadw cofnod gyfredol o sgiliau iaith y gweithlu, ond mae ffigurau ydym ni wedi eu derbyn yn dangos fod gwahaniaeth mawr o ran perfformiad y sefydliadau – yn amrywio o un bwrdd iechyd sydd yn gwybod sgiliau iaith 95% o’r staff, i fwrdd arall sydd ond yn gwybod sgiliau iaith 22% o’r gweithlu.  Mae hyn yn golygu nad oes ganddynt syniad pwy sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn sicrhau fod staff sy’n gallu siarad Cymraeg yn gofalu am y cleifion sy’n dymuno siarad yr iaith.
 
Mae’r sgiliau ieithyddol yn amrywio o fod yn gallu dweud cyfarchiad syml i fod yn rhugl ond mae’r Comisiynydd yn annog y rheiny sydd wedi colli eu hyder i siarad yr iaith i geisio adfer y sgil trwy ddilyn cyrsiau sy’n cael eu cynnig gan y byrddau iechyd. Meddai,“Rydym wedi cyfarfod nifer o bobl sy’n gweithio yn y maes gofal a iechyd, sydd unai yn siomedig na chawson nhw addysg cyfrwng Cymraeg neu sydd wedi colli eu hyder i ddefnyddio’r iaith ers gadael addysg cyfrwng Cymraeg. Rwyf yn galw ar y bobl hyn i gysylltu gyda’r swyddogion iaith o fewn eu sefydliad a holi am y cyfleoedd sydd yna i ddysgu neu ailddysgu’r iaith.
 
“Hoffwn hefyd weld plant a phobl ifanc yn cael eu hannog i ddilyn gyrfa yn y gwasanaeth iechyd, ble mae angen dirfawr amdanynt.  Mae’n rhaid i ni gynllunio at y dyfodol i sicrhau fod gennym weithlu dwyieithog all ateb y galw. Wedi’r cyfan, angen nid dewis yw iaith.”
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau