Skip Ribbon Commands
Skip to main content

“Comisiynydd y Gymraeg yn gweithredu’n briodol”

Mae adolygiad annibynnol oedd yn ymchwilio i gŵyn yn erbyn Comisiynydd y Gymraeg  wedi dod i’r casgliad fod y Comisiynydd, Aled Roberts, yn gweithredu o fewn y gyfraith, gan ddilyn Polisi Gorfodi y sefydliad. Daeth hefyd i’r casgliad ei fod yn gweithredu mewn ffordd dryloyw ac nad oedd unrhyw sail i gŵyn Cymdeithas yr Iaith.
 
Cadarnhaodd yr adroddiad mai mater o ddisgresiwn i’r Comisiynydd yw penderfynu pa opsiynau i’w cymryd pan mae methiant i gydymffurfio gofyniad perthnasol ac nad oedd wedi cyflwyno arferion cyn-ymchwilio newydd. Daeth i’r farn hefyd nad oedd  nifer yr ymchwiliadau a gynhaliodd y Comisiynydd yn isel.
 
Cafodd yr adolygiad annibynnol ei gynnal gan Rhianwen Roberts a benodwyd yn dilyn cwyn gan Gymdeithas yr Iaith oedd yn honni fod y Comisiynydd yn cyflwyno arferion cyn-ymchwilio newydd, sydd yn golygu ei fod yn agor llai o ymchwiliadau mewn modd oedd yn groes i Fesur y Gymraeg, yn anhryloyw ac yn groes i Bolisi Gorfodi’r Comisiynydd.
 
Cwynodd Cymdeithas yr Iaith hefyd nad oedd y Comisiynydd yn defnyddio pwerau cosb sifil.
Yn ogystal, honnodd  Cymdeithas yr Iaith  fod Gweinidog y Gymraeg a Materion Rhyngwladol, Eluned Morgan AC, yn dylanwadu ar weithrediadau’r Comisiynydd.
 
Yn yr adroddiad, dywedodd yr awdur, “Yn fy marn i, nid yw’n fuddiol o dan y gyfraith bresennol, i roi ffocws ar derm megis ‘datrysiad buan’, neu arferion ‘cyn-ymchwilio’ newydd; yn hytrach dylid cofio am y pŵer sydd gan y Comisiynydd i arfer ei ddisgresiwn o fewn y Mesur.”

“Beth mae hynny yn ei olygu yw fod gan y Comisiynydd hawl i ddefnyddio ei ddisgresiwn wrth benderfynu agor ymchwiliad a’i peidio.  Mater o ddisgresiwn i’r Comisiynydd hefyd yw pa opsiwn i’w gymryd / pa opsiynau i’w cymryd pan fydd sefydliad wedi methu cydymffurfio.  Ei benderfyniad ef yw rhoi cosb sifil a’i peidio ar ddiwedd ymchwiliad.”

Wrth ystyried nifer yr achosion gafodd eu hagor cyfeiriodd awdur yr adolygiad annibynnol hefyd at y ffaith fod nifer yr ymchwiliadau yn 2018 yn anarferol o uchel, ac mai dyna pam fod ffigurau 2019 yn edrych yn isel.  Dywedodd, “Mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai nifer yr ymchwiliadau oedd yn uchel yn 2018 (ac i raddau llai, 2017), nid bod nifer yr ymchwiliadau a agorwyd yn 2019 yn isel.”

Wrth gloi, daeth yr archwilydd i’r casgliad nad yw Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith yn deall darpariaeth y gyfraith yn Mesur y Gymraeg yn llawn. Dywedodd, “Heb y ddealltwriaeth hon, mae’n ymddangos i mi fod cynnal ymchwiliadau anghymesur yn cynyddu’r risg o rwystro’r Comisiynydd a’i swyddfa rhag gweithredu yn effeithiol ac effeithlon i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.”

Gwnaed dau argymhelliad yn sgil yr adroddiad, un i’r Comisiynydd ac un i Gymdeithas yr Iaith. Roedd yr adolygiad yn argymell y dylai’r Comisiynydd fod yn cyhoeddi crynodeb o ganllawiau’r Tribiwnlys ar ei wefan, sydd yn enghreifftiau o ffactorau allai fod yn briodol i’r Comisiynydd eu hystyried wrth benderfynu agor ymchwiliad a’i peidio. 
 
Ychwanegodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, “Rwyf yn croesawu adroddiad yr adolygiad annibynnol sydd wedi dod i’r casgliad fy mod yn gweithredu’n briodol. 

“Rwyf eisoes wedi gweithredu ar yr argymhelliad i egluro’r rhesymeg dros agor ymchwiliad neu beidio yn gliriach. O ran y gŵyn ei hun, byddaf yn cwrdd efo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr wythnosau nesaf er mwyn trafod yr adroddiad yn llawn.

“Dwi’n awyddus mod i a fy swyddogion nawr yn gallu canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau hawliau unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg ac i atgyfnerthu hyder y cyhoedd fy mod yn ymchwilio i fethiannau pan fydd yn rhesymol ac yn gymesur i mi wneud hynny.”
 
Nodiadau i’r Golygydd
 
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau