Croeso i wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Mae swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys:
- hybu defnyddio'r Gymraeg
- hwyluso defnyddio'r Gymraeg
- gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau’n ymwneud â’r Gymraeg
- cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd
- ymchwilio i ymyrraeth â rhyddid unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg