Gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg yw
“Cymru lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd”
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn sicrhau hawliau i'r Gymraeg mewn sawl modd.
Mae gan y cyhoedd yng Nghymru hawl i ddefnyddio'r Gymraeg heb rwystr. Os oes rhywun yn rhwystro rhyddid unigolyn i siarad Cymraeg, gall y Comisiynydd ymchwilio.
Mae’n rhaid i sefydliadau sector gyhoeddus yng Nghymru ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn Gymraeg. Gall hynny fod o dan safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg, yn dibynnu ar y sefydliad dan sylw. Bydd busnesau ac elusennau yn gallu gweithio ar ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg ar sail wirfoddol.
Mae mwy o wybodaeth am ein cynlluniau â busnesau ac elusennau
yma.