Anwybyddu Gorchmynion y Rhuban
Neidio i'r prif gynnwys

Cynlluniau Iaith

Beth yw cynlluniau iaith?

Mae rhai sefydliadau, er enghraifft cymdeithasau tai, cynghorau tref a chymuned ac adrannau Llywodraeth y DU, yn gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg. Roedd cynlluniau iaith Gymraeg yn bodoli cyn Safonau’r Gymraeg, yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Gallwch weld rhestr o bwy sy'n gweithredu cynlluniau iaith yma.

Roedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn dweud fod rhaid i bob sefydliadau sector gyhoeddus roi’r un statws i’r Gymraeg ar Saesneg yng Nghymru. Darllenwch mwy am y ddeddf yma.

Mae’r cynlluniau hyn yn nodi beth mae’r sefydliadau yn ei wneud er mwyn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Yn debyg i'r safonau, maen nhw’n rhoi dyletswyddau iaith ar sefydliadau. Os nad yw’r sefydliad yn cynnig gwasanaeth Gymraeg gorfodol, rhaid iddyn nhw nodi amserlen o ran sut a phryd y byddant ar gael. 

Beth yw'r broses o baratoi cynllun iaith?

Y cam cyntaf yw bod sefydliad yn paratoi drafft o’r dyletswyddau iaith maent yn bwriadu eu gweithredu at sylw Comisiynydd y Gymraeg am sylwadau. Bydd amserlen benodol sy’n nodi pryd y bydd y sefydliad yn bwriadu gweithredu’r dyletswyddau iaith yn rhan o’r cynllun.
 
Wrth baratoi eu cynllun iaith, rhaid i’r sefydliad ddilyn canllawiau statudol Comisiynydd y Gymraeg. Darllenwch ragor am hyn yma.
 
Bydd rhaid i’r sefydliad gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar eu cynllun iaith, er mwyn derbyn sylwadau gan y cyhoedd.
 
Bydd y sefydliad a Chomisiynydd y Gymraeg yn trafod y dyletswyddau iaith, cyn dod i benderfyniad ar y cynllun iaith terfynol.
 
Diwygio cynlluniau iaith
 
Os bydd newidiadau i amgylchiadau sefydliad sydd â chynllun iaith, efallai y byddai rhaid iddynt newid eu cynllun iaith. Bydd disgwyl i unrhyw gynllun newydd ymrwymo i wella’r ddarpariaeth Gymraeg bresennol.

 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau