Dangosodd Cyfrifiad 2011 gwymp yn y niferoedd o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru o’i gymharu â Chyfrifiad 2001, gyda’r nifer o gymunedau lle mae 70% neu’n uwch o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn disgyn o 53 i 39.
Comisiynwyd Uned Ddata Cymru i ddarparu dadansoddiadau o ddata Cyfrifiad 2011 a chyfrifiadau blaenorol a fyddai’n atgyfnerthu dealltwriaeth Comisiynydd y Gymraeg a chymdeithas yn ehangach o sefyllfa’r Gymraeg heddiw.
Gallwch lawrlwytho siartiau, tablau a mapiau’r Comisiynydd gyda chanlyniadau’r Cyfrifiad ar ffurf PowerPoint.