Anwybyddu Gorchmynion y Rhuban
Neidio i'r prif gynnwys

Llywodraeth leol

 
Cyflwyniad i faes llywodraeth leol
 
Mae awdurdodau lleol yn effeithio ar fywydau pobl Cymru mewn llawer o ffyrdd, er enghraifft trwy ddarparu gwasanaethau pwysig fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol a hamdden. Maent hefyd ymhlith cyflogwyr mwyaf Cymru. Yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 mae’r safonau wedi gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i hybu’r gwasanaethau hynny.
 
Pam ei bod hi’n bwysig ystyried y Gymraeg yn y maes
 
Mae llywodraeth leol ymhlith blaenoriaethau’r Comisiynydd wrth graffu ar bolisi a cheisio dylanwadu arno oherwydd:
  • Gall awdurdodau lleol ddylanwadu’n fawr ar sefyllfa’r iaith trwy gynnig gwasanaethau yn Gymraeg a rhoi cyfleoedd i bobl weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gall awdurdodau lleol gyfrannu’n sylweddol tuag at wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno newidiadau arwyddocaol i lywodraeth leol. O ystyried rôl amlwg a phwysig llywodraeth leol yn nyfodol y Gymraeg, mae’n hanfodol sicrhau bod twf yr iaith wrth galon y newidiadau arfaethedig hyn.
Ein gwaith diweddar yn y maes
 
Mae’r Comisiynydd wedi ymateb i nifer o ymgynghoriadau sy’n ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol. Er enghraifft, wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl (2018), dadleuodd y Comisiynydd bod rhaid sicrhau nad yw unrhyw newidiadau i’r gyfundrefn llywodraeth leol yn llesteirio’r cynnydd a wnaethpwyd yn sgil cyflwyno safonau’r Gymraeg. Tynnodd sylw hefyd at faterion technoleg gwybodaeth, y Gymraeg yn y gweithle a throsglwyddo gwasanaethau.
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau