Anwybyddu Gorchmynion y Rhuban
Neidio i'r prif gynnwys

Brexit

 
Cyflwyniad i faes Brexit
 
Ym Mis Mehefin 2016 bleidleisiodd etholwyr Prydeinig o blaid i Brydain ymadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn ôl cyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, David Davies AS, bydd Brexit ‘y newid mwyaf ein cenhedlaeth’. Yn wir, anodd meddwl am faes polisi na fydd yn cael ei effeithio gan Brexit.
 
Pam ei bod hi’n bwysig dylanwadu ar y maes polisi hwn
Yn anffodus, ni dderbyniodd yr iaith llawer o sylw yn y trafodaethau am Brexit hyd yn hyn. O ganlyniad, dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn ceisio amlygu risgiau posibl Brexit i siaradwyr y Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith. Credwn y gall Brexit:

 

  • effeithio ar sectorau o’r economi sy’n bwysig i siaradwyr y Gymraeg, er enghraifft y sector amaeth ac addysg ôl-16;
  • beryglu’r cyllid tuag at tuag brosiectau hybu sgiliau a busnes sydd hefyd yn cefnogi defnydd y Gymraeg;
  • gyfyngu ar allu siaradwyr y Gymraeg i fanteisio at fentrau a phlatfformau Ewropeaidd sy’n hybu amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol;
  • danseilio’r parch at gymunedau lleiafrifol ym Mhrydain, gan gynnwys cymunedau ieithyddol; ac
  • effeithio ar y gyfundrefn diogelu hawliau dynol yn y DU, gydag effaith posibl ar hawliau ieithyddol hefyd.
Ein gwaith diweddar yn y maes polisi hwn
 
Mae ein hymateb i ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (Hydref 2018) yn crynhoi ein holl pryderon ynghylch effaith Brexit ar y Gymraeg. Ymrwymom hefyd sylw mwy penodol i effaith posibl ar y sector amaeth, sy’n gartref i ganran uchel o siaradwyr y Gymraeg ac sy’n cynnal llawer o gymunedau gwledig lle siaredir y Gymraeg fel iaith pob dydd. Yn ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar drefniadau i ddod yn lle Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru (Brexit a’n Tir), dadleuom y dylai’r Gymraeg gael ei dynodi fel ‘nwydd cyhoeddus’, i’w gefnogi a chryfhau gan y sector yn y dyfodol.
 
Pob tro i ni godi ein llais am y materion hyn, galwom am Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad effaith llawn o effaith Brexit ar y Gymraeg. Croesawn yn gynnes argymhelliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu sy’n ategu ein dadleuon. Fodd bynnag, rydym wedi ein siomi gydag phenderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â gweithredu ar yr argymhelliad ac eithrio ac o ran ei pholisi arfaethedig ar gyfer y sector amaeth. Byddwn yn parhau i drafod y mater hwn gyda’r Llywodraeth dros y misoedd nesaf.
 
Yn ogystal, ym mis Rhagfyr 2018 ysgrifennom at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE. Galwom amdanynt i ystyried ein pryderon ac i weithio ar y cyd er mwyn diogelu’r Gymraeg a’i siaradwyr yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau