Anwybyddu Gorchmynion y Rhuban
Neidio i'r prif gynnwys

Economi

 
Cyflwyniad i faes datblygu economaidd
 
Mae polisi datblygu economaidd yn flaenoriaeth uchel iawn i bob haen o lywodraeth yng Nghymru a’r DU. Gall y maes hwn gynnwys ystod eang o weithgareddau i wella lles pobl – nid yn unig i gynyddu incwm ond hefyd i gryfhau rhyddid cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. Fodd bynnag, yn ein gwaith yn y maes hwn rydym yn canolbwyntio’n bennaf ar agweddau megis cyflogaeth, entrepreneuriaeth a seilwaith. Mae materion perthnasol eraill megis cynllunio, iechyd ac addysg hefyd yn derbyn sylw fel meysydd polisi ynddynt eu hunan.
 
Pam ei bod hi’n bwysig dylanwadu ar y maes polisi hwn
 
Dros y blynyddoedd mae llawer o bobl wedi dadlau bod yna gysylltiad allweddol rhwng datblygiad economaidd a ffyniant y Gymraeg (gweler, er enghraifft Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd, ac Adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog).
 
Ar un llaw, mae ystod o ffactorau economaidd megis cyfleodd cyflogaeth ac argaeledd tai yn debygol o ddylanwadu ar gynaladwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yn benodol, ceir pryderon y gall y ffactorau hyn sbarduno allfudo o’r cymunedau Cymraeg, yn enwedig gan bobl ifanc.
 
Ar y llaw arall, gall y Gymraeg fod o fudd i’r economi hefyd, er enghraifft fel arf marchnata neu sgil gwerthfawr yn y gweithle. Yn hyn o beth, mae sail i dybio bod galw am y sgiliau Cymraeg yn y sector gyhoeddus wedi cynyddu ers i’r Comisiynydd osod safonau’r Gymraeg ar y sefydliadau cyntaf yn 2015.
 
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y cysylltiad rhwng yr iaith ac economi (yn ddiweddaraf oll yn ei Strategaeth Cymraeg 2050). Fodd bynnag, nid yw datganiadau polisi lefel uchel yn mynd po tro ochr yn ochr â chamau gweithredu ymarferol. Hefyd, mae diffyg data yn y maes cymhleth hwn yn aml yn rhwystro llunio ymyriadau polisi effeithiol.
 
Ein gwaith diweddar yn y maes polisi hwn
 
Defnyddiwn y cyfleodd sy’n codi er mwyn amlygu gwerth economaidd y Gymraeg. Er enghraifft, cyflwynom dystiolaeth i ymgynghoriad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ‘Gwerthu Cymru i'r Byd’ (Hydref 2017). Codom hefyd bwyntiau tebyg yn ein hymateb i gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r drefn cefnogaeth ariannol i sector amaeth yng Nghymru. Wrth i ni gyflwyno’ dadleuon hyn, gweithiwn yn agos gyda’n cydweithwyr yn y Tîm Hybu sy’n ymgysylltu gyda sefydliadau yn y sector breifat a’r sector wirfoddol.
 
Gellir canfod rhai o’n dadleuon eangach am effaith economi ar y Gymraeg yn ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i dlodi yng Nghymru (Hydref 2017). Yn ddiweddarach, ymgysylltom hefyd gyda Chomisiwn Gwaith Teg er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth i’r Comisiwn ddatblygu ei waith.

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau