Bydd rhestr gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei
chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin, fydd yn cynnig sillafiad
safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.
Mae’r rhestr, fydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y
Gymraeg, yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau
lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o
waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.
Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r
Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn
diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw
tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’
wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Rydym yn
hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau
lleoedd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith
ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â
phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr
hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob
un o’r argymhellion.
“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu
enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â
phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach
argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau
lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”
Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn
gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.
Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Mae
gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac maen nhw wedi
chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau
cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch
iawn o fod yn parhau i weithio â’r Comisiynydd ac yn croesawu’r rhestr hon fel
adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.”
Bydd y rhestr yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mae
Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Gwnaeth Dr Dai Lloyd ymgais ym Mawrth 2017
i gyflwyno mesur fyddai’n diogelu enwau lleoedd yng Nghymru, ond pleidleisiodd
y Cynulliad yn erbyn y cynnig ar y pryd.
Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar
restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael
eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau
na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws
cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.”
Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi
bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn talu sylw i ynganiad a
tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.
Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod
o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth
– dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed
ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd
yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon
yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair
Eisteddfod Genedlaethol 1935!
“Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid
pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol
mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern
ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.”
Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar
wefan Comisiynydd y Gymraeg: