Anwybyddu Gorchmynion y Rhuban
Neidio i'r prif gynnwys

Hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg

Mae safonau’r Gymraeg yn dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud yn Gymraeg.
Mae’r safonau’n rhoi hawliau i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, gan gynnwys:
  • wyneb yn wyneb
  • ar y ffôn
  • ar-lein
  • mewn gohebiaeth.
Sut ydw i’n gwybod pwy sy’n gweithredu safonau? 
Eich cyngor sir, Llywodraeth Cymru a’r parciau cenedlaethol ydi’r sefydliadau cyntaf i ddechrau cadw at safonau’r Gymraeg. Dros amser bydd mwy yn gwneud hynny gan gynnwys ysbytai, colegau, cwmnïau trafnidiaeth cyhoeddus, cwmnïau ynni, gwasanaethau post, darparwyr tai cymdeithasol, cwmnïau telegyfathrebu a llawer mwy.

Beth yn union ydy’r safonau?
Mae gwahanol fathau o safonau. Y rhai mwyaf cyffredin ydy’r safonau sy’n dweud bod rhaid cynnig y gwasanaethau yma yn Gymraeg:
gohebiaeth; galwadau ffôn; llinellau cymorth; cyfarfodydd; cyhoeddusrwydd a hysbysebu; ffurflenni; gwefannau a gwasanaethau ar-lein; arwyddion; a derbynfeydd ymwelwyr.

Gwybodaeth fanwl: 
Cliciwch yma i weld yr holl safonau sydd wedi eu cymeradwyo mewn rheoliadau ar gyfer y 26 sefydliad cyntaf.

Cliciwch yma ydych am wybod yn union beth mae eich cyngor lleol yn ei wneud yn Gymraeg, neu os ydych eisiau gwybod beth mae sefydliad unigol yn ei wneud.

Be sy’n digwydd os nad ydw i’n gallu defnyddio’r Gymraeg?
Os nad ydych wedi gallu derbyn gwasanaeth Cymraeg boddhaol, gallwch gwyno wrth Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg. Mae hyn yn hawl.

Er mwyn darllen am eich hawl i gwyno, neu os am wneud cwyn,
cliciwch
 
 
 
Fideo
(Er mwyn gweld is-deitlau Cymraeg ar y fideo hon cliciwch ar fotwm gosodiadau (‘settings’)  YouTube a dewisiwch Subtitles/CC, yna  Welsh – Cymraeg)

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau