Anwybyddu Gorchmynion y Rhuban
Neidio i'r prif gynnwys

Mae gen i hawl

 

Am y tro cyntaf ar 6 Rhagfyr 2019, bu sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru yn cynnal ‘Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.’

Diwrnod yw hwn i ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg mae sefydliadau’n eu cynnig, a’r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio gyda nhw. Roedd yn gyfle i hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg ac i geisio cynyddu’r nifer sy’n dewis eu defnyddio.

Hon oedd y flwyddyn gyntaf i’r ymgyrch genedlaethol gael ei chynnal. Dewiswyd y dyddiad er mwyn nodi’r dyddiad y cafodd y ddeddfwriaeth iaith ei phasio gan y Cynulliad yn 2010. Y nod yw gwneud hon yn ymgyrch flynyddol.

Mae’r ymgyrch farchnata yn sôn am rai o’r hawliau sydd gan y cyhoedd. I weld hysbysiad cydymffurfio y sefydliad yn llawn, sydd yn cynnwys yr holl hawliau, cliciwch yma.


 

 

 Youtube WebPart

 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau