Os ydych chi wedi methu â derbyn gwasanaeth Cymraeg gan sefydliad cyhoeddus, neu os ydych chi’n anfodlon â safon y gwasanaeth Gymraeg a dderbynioch, mae’n bosib y gallwch gwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.
Gallwch wneud cwyn i’r Comisiynydd
- am fethiant sefydliad i gydymffurfio â safon
- am fethiant sefydliad i weithredu ei gynllun iaith
- neu os ydych chi’n teimlo bod rhywun wedi ymyrryd a ’ch rhyddid i ddefnyddio’r
Gymraeg.
Disgwylir i chi gyflwyno eich cwyn o fewn 12 mis ar ôl dod yn ymwybodol o’r broblem.