Skip Ribbon Commands
Skip to main content

Hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg

 
Beth yw fy hawliau?
 
Fel siaradwr Cymraeg yng Nghymru, mae gennych chi hawliau i ddelio â sefydliadau cyhoeddus yn Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt.
 
Sail yr hawliau ydy safonau’r Gymraeg, sef rhestr o’r pethau mae’n rhaid i sefydliadau eu gwneud yn Gymraeg, er enghraifft:
 
  • galwadau ffôn
  • llythyrau
  • dogfennau a chyhoeddiadau
  • gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
  • cyfarfodydd
  • gwasanaethau derbynfa
 
Mae dros 100 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld pwy ydyn nhw.
 
Mae angen i'r sefydliadau hyn hefyd hybu defnydd o’r Gymraeg, rhoi cyfleoedd i’w staff ddefnyddio’r iaith, ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi a bod yn atebol i Gomisiynydd y Gymraeg ac i’r cyhoedd.
 
 
Beth am sefydliadau cyhoeddus nad ydyn nhw ar y rhestr?
 
Oherwydd y sefyllfa gyfreithiol bresennol, mae rhai sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg yn hytrach na safonau. Mae’r cynlluniau iaith yn nodi beth mae sefydliadau wedi ymrwymo i’w wneud o ran y Gymraeg. Cliciwch yma i weld pwy sy'n gweithredu cynlluniau iaith.
 
 
Beth am fusnesau ac elusennau?
 
Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes rhaid i fusnesau ac elusennau ddefnyddio’r Gymraeg yn ôl y gyfraith. Rydyn ni’n eu hannog i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg yn wirfoddol ac yn rhoi cymorth a chefnogaeth iddyn nhw wneud hynny. Cliciwch yma i ddarllen mwy am ein gwaith gyda busnesau ac elusennau.
 
 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau