Anwybyddu Gorchmynion y Rhuban
Neidio i'r prif gynnwys

Cydymffurfio â chynlluniau iaith Gymraeg


Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus sydd â chynlluniau iaith Gymraeg statudol i sicrhau fod gwasanaethau i’r cyhoedd yn cydymffurfio â gofynion y cynllun. Y sefydliad ei hun sy’n bennaf gyfrifol dros ansawdd a safon y gwasanaethau hynny. Ceir ymrwymiadau mewn cynlluniau iaith sy’n nodi sut bydd y sefydliad yn arolygu  gweithrediad y cynllun.

Rheoleiddio
Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am reoleiddio cydymffurfedd â chynlluniau iaith Gymraeg. Mae Fframwaith Rheoleiddio’r Comisiynydd, a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2016, yn egluro sut y bwriada’r Comisiynydd gynnal ei gwaith o reoleiddio cynlluniau iaith Gymraeg o’r dyddiad hwn ymlaen.

Ymchwiliad statudol
Os bydd amheuaeth gan y Comisiynydd nad yw sefydliad yn cydymffurfio â’i gynllun iaith, boed hynny’n sgil derbyn cwyn neu drwy wrth iddi gynnal arolygon neu ymchwil, gall gynnal ymchwiliad statudol o dan adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 er mwyn penderfynu a fu methiant.

 

Cwynion

Os yw aelod o’r cyhoedd wedi methu â derbyn gwasanaeth Cymraeg gan sefydliad cyhoeddus, gallant gyflwyno cwyn i Gomisiynydd y Gymraeg. Caiff y Comisiynydd ystyried y gŵyn os oes tystiolaeth nad yw’r sefydliad wedi darparu gwasanaeth yn unol â’i gynllun iaith.

Cyflwyno cwyn am weithrediad cynllun iaith Gymraeg
Fel arfer bydd disgwyl i’r achwynydd gyflwyno’r gŵyn i’r sefydliad yn gyntaf, er mwyn rhoi cyfle rhesymol iddo ymateb. Cred y Comisiynydd fod 12 wythnos yn gyfnod rhesymol i sefydliad ddarparu ymateb terfynol i’r gŵyn.

Disgwylir i’r achwynydd gyflwyno’r gŵyn o fewn 12 mis ar ôl dod yn ymwybodol o’r broblem. Er hynny, gall y Comisiynydd ymchwilio i gŵynion sydd ddim yn cwrdd â’r gofynion hyn os yw’r gwyn yn un brys, neu’n dangos methiant difrifol gan sefydliad i weithredu ei gynllun iaith.

Datrys cwyn am weithrediad cynllun iaith Gymraeg
Os gall y Comisiynydd ymchwilio i’ch cwyn, bydd yn gweld a ellir datrys y mater yn anffurfiol trwy drafod â’r sefydliad. Os nad yw hyn yn bosib - yn enwedig os yw’r gŵyn yn amlygu methiant difrifol ar ran y sefydliad i weithredu ei gynllun iaith - bydd y Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad statudol.

Os yw’r Comisiynydd yn canfod bod sefydliad wedi methu â gweithredu ei gynllun iaith caiff
 
  • wneud argymhellion ar beth y dylai’r sefydliad ei wneud er mwyn gwella’r sefyllfa
  • chyhoeddi adroddiad ar yr ymchwiliad i’r gŵyn.

 

Ymchwiliadau

​Pan ymddengys i Gomisiynydd y Gymraeg, yn sgil derbyn cwyn, y gall sefydliad cyhoeddus fod wedi methu â chydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg, caiff gynnal ymchwiliad statudol yn unol ag adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg er mwyn gweld a fu methiant.
 
Arfer y Comisiynydd fydd rhoi cyfle rhesymol i sefydliad ymateb i honiadau cwyn, a cheisio datrysiad boddhaol a chyflym er budd yr achwynydd. Bydd y Comisiynydd yn ystyried y ffactorau canlynol er mwyn penderfynu a yw sefydliad wedi ymateb yn foddhaol i gŵyn:
 
  • A yw’r sefydliad wedi datrys yr achos penodol dan sylw ac wedi darparu tystiolaeth briodol i’r Comisiynydd? 
  • A yw’r sefydliad wedi cydnabod ei fethiant ac (os yn berthnasol) wedi ymddiheuro i’r achwynydd? 
  • A yw’r sefydliad wedi ymrwymo i roi camau yn eu lle fel nad yw’r diffyg yn digwydd eto? A oes gan y Comisiynydd ddigon o dystiolaeth o hyn? 
  • A yw’r sefydliad wedi gweithredu yn unol â’i gynllun iaith Gymraeg wrth ymdrin â’r gŵyn a/neu wedi ymateb i ohebiaeth o fewn cyfnod rhesymol?
Os nad yw sefydliad yn cynnig tystiolaeth i ddangos ei fod wedi cymryd y camau uchod bydd y Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad statudol, oni bai fod rhesymau arbennig dros beidio.
Os yw sefydliad cyhoeddus wedi gweithredu’r camau uchod mae’n bosibl na fydd y Comisiynydd am gymryd camau pellach.
 
Er hynny, mewn amgylchiadau arbennig (neu os nad yw sefydliad wedi gweithredu’r camau i gyd neu heb eu gweithredu’n llawn), mae’n bosibl y bydd y Comisiynydd yn penderfynu cynnal ymchwiliad statudol.
 
Gall y Comisiynydd hefyd gynnal ymchwiliad statudol yn sgil derbyn tystiolaeth arall sydd yn amlygu methiant i weithredu cynllun iaith Gymraeg, megis gwybodaeth mewn adroddiadau monitro, gwybodaeth yn dilyn arolwg, neu unrhyw wybodaeth arall. Bydd y Comisiynydd yn dilyn yr un egwyddorion a’r un camau cychwynnol ag y byddai’n eu dilyn wrth ddelio â chwyn.
 
Caiff adroddiadau ymchwiliadau statudol eu cyhoeddi ar wefan y Comisiynydd. Cliciwch ar y teitlau isod i ddarllen yr adroddiadau.
 

 

Adroddiadau blynyddol

Yng nghyd-destun Mesur y Gymraeg a safonau’r Gymraeg, mae rheoliadau safonau yn cyfeirio at ‘gorff yn llunio adroddiad blynyddol’ sy’n delio â’r modd y bu iddo gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi a gweithredu.


Rhaid i adroddiad o’r fath gynnwys, er enghraifft, nifer y cwynion y derbyniodd y corff, nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg yn ogystal â gwybodaeth ynghylch cyrsiau hyfforddiant a gynigwyd gan y corff yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw. Ar ben hynny, mae rheoliadau’n cyfeirio at y rheidrwydd sydd ar gorff i ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd y Comisiynydd yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’i gydymffurfedd â phob dosbarth o safonau. Yn olaf, mae’n ofynnol i gorff gyhoeddi adroddiad blynyddol a sicrhau y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r ffaith ei fod wedi gwneud hynny. 

Yng nghyd-destun Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae cyrff sy’n gweithredu cynlluniau iaith dan ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno adroddiad monitro blynyddol i’r Comisiynydd sy’n disgrifio sut y maent yn gweithredu’r cynlluniau hynny.

O fewn adroddiad monitro blynyddol, mae disgwyl i gyrff ddangos eu bod yn cydymffurfio â’u cynlluniau iaith a chynnwys gwybodaeth a thystiolaeth ar brif faterion gweithredu’r cynlluniau. Mae’r Comisiynydd wedi llunio canllawiau adrodd ar gyfer gwahanol grwpiau o gyrff. Ceir rhestr o holl ymatebion y Comisiynydd i adroddiadau monitro blynyddol yn y fan hon.

 

Fframwaith Rheoleiddio Comisiynydd y Gymraeg

Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am reoleiddio cydymffurfedd sefydliadau gyda’u dyletswyddau ieithyddol statudol. Mae Fframwaith Rheoleiddio’r Comisiynydd, a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2016, yn egluro sut y bwriada’r Comisiynydd gynnal ei gwaith o reoleiddio safonau’r Gymraeg a chynlluniau iaith Gymraeg o’r dyddiad hwn ymlaen.

Barn y Comisiynydd yw nad trwy orfodi’n unig y mae sicrhau cydymffurfedd; felly bydd yn cynnal rhaglen waith fydd yn cymell cydymffurfedd ac yn gymorth i alluogi pethau i ddigwydd fel y dylent.

Yn fras, bwriedir rheoleiddio drwy gyfuniad o ddulliau amrywiol, megis defnyddio grymoedd y Comisiynydd dan adran 4 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Mesur y Gymraeg), dysgu ac adrodd ar brofiadau defnyddwyr y Gymraeg, dyroddi codau ymarfer (o bosib), cynnal astudiaethau thematig ar amrywiaeth o safonau ynghyd ag ystyried sut orau i ymateb i adroddiadau blynyddol safonau’r Gymraeg neu adroddiadau monitro blynyddol ar weithrediad cynlluniau iaith Gymraeg.

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau