Gall y Comisiynydd y Gymraeg yn gwneud unrhyw beth sy’n briodol yn ei thyb hi er mwyn
- hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg (gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd)
- gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Mae hynny’n cynnwys
- gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru
- cyflwyno sylwadau i unrhyw berson neu sefydliad
- rhoi cyngor i unrhyw berson neu sefydliad.
Os yw’r Comisiynydd yn gwneud argymhellion ysgrifenedig, cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu’n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid iddynt roi sylw dyladwy iddo mewn unrhyw waith perthnasol.
Mae’r Comisiynydd yn arfer y pwerau yma’n rheolaidd wrth
- ddylanwadu ar bolisi
- ymateb i ymgynghoriadau
- cynghori Gweinidogion Cymru a phersonau eraill ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
Gellir gweld dogfennau cyngor y Comisiynydd yma.
Gellir gweld ymatebion y Comisiynydd i ymgynghoriadau yma.
Dolenni