Skip Ribbon Commands
Skip to main content

06/03/2014: Y Frenhines ar Gais Comisiynydd y Gymraeg a Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru

 

Mewn dyfarniad yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd, cyhoeddodd Mr Ustus Hickinbottom ac Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman CF fod penderfyniad Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol i ddod â’i Gynllun Iaith i ben ar 22 Ebrill 2013 yn anghyfreithlon; ac yn dilyn adolygiad barnwrol ar gais Comisiynydd y Gymraeg, fe ddiddymwyd y penderfyniad.
 
Gwnaeth y Comisiynydd gais i’r Uchel Lys am adolygiad barnwrol o benderfyniad Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol i ddiddymu ei Gynllun Iaith ym mis Ebrill 2013. Dyma’r tro cyntaf erioed i achos yn ymwneud â gwasanaeth Cymraeg gael ei glywed mewn adolygiad barnwrol; a’r achos hwn  hefyd oedd y cyntaf erioed lle clywyd adolygiad barnwrol yn yr iaith Gymraeg.
 
Dyfarnwyd bod yr asiantaeth wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy ddiddymu ei Gynllun Iaith a diddymu ei wasanaethau Cymraeg. Dyfarnwyd bod Cynllun Iaith y corff yn parhau’n weithredol.

 

 Dolenni

 

Trwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i ni osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cau